Elizabeth DavinaWILLIAMS20fed o Ionawr 2026.
Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref Gwên Lleyn, Llannor yn 85 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Edgar, mam gariadus Arwel a Dylan, nain hynod falch a charedig Dylan, Sean, Ifan a Tomos, a ffrind i lawer. Bydd y golled yn enfawr i'w theulu a'i ffrindiau.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Ebeneser, Y Ffôr, fore dydd Iau 5ed o Chwefror am 11 o'r gloch gan ddilyn yn gyhoeddus ar lan y bedd ym Mynwent Pentreuchaf.
Blodau teulu agosaf yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at "Ty Gobaith", trwy law'r ymgymerwr (sieciau yn daladwy i Ifan Hughes Cyfrif Rhoddion).
Ifan Hughes
Ymgymerwr Angladdau
Ceiri Garage
Llanaelhaearn
Ffôn: 01758 750238
Keep me informed of updates
Add a tribute for Elizabeth